SWYDDI GWAG PRESENNOL I WIRFODDOLWYR
Swyddog cymorth dementia gwirfoddol ar y bws mini GFG.
Rydym yn darparu gwasanaeth codi i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i fynychu grwpiau dementia. Rydym yn chwilio am wirfoddolwr i fynd gyda’r teithwyr ar y bws mini ac i helpu yn y sesiynau gweithgaredd dementia.
Gwirfoddoli yn y Pantri Cymunedol
Rydym yn rhedeg pantri sy’n darparu bwydydd, pasteiod a nwyddau ymolchi cymorthdaledig. Mae angen gwirfoddolwr arnom i helpu i stocio’r silffoedd, derbyn taliad gan gwsmeriaid, helpu gyda phacio a chymorth cyffredinol, dydd Mawrth 9am i 4pm a dydd Gwener 2pm -4pm – unrhyw sesiwn bore neu brynhawn sy’n addas ar gyfer eich argaeledd.
Gwirfoddolwyr amgylcheddol
Mae angen sylw cyson ar y tir o amgylch y Ganolfan Llesiant. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda chwynnu, tocio llwyni, casglu sbwriel a phlannu. Gall hyn fod ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos.
Caffi Atgyweirio
Yr ail ddydd Iau bob mis rydym yn rhedeg Caffi Atgyweirio. Oes gennych chi unrhyw sgiliau atgyweirio? Mae eich angen chi arnom ni!
Cysylltwch â ni os ydych yn teimlo y gallai unrhyw un o’r rolau hyn fod yn addas i chi. Rydym yn ad-dalu treuliau ac yn darparu bag pantri am ddim fel ffordd o ddweud diolch am eich cyfraniad gwerthfawr.