FE’I GELWIR YN FFASIWN
Yn 2015 cysylltodd steilydd lleol, Charlotte James, â diddordeb mewn creu sesiwn tynnu lluniau a gwisgoedd ffasiwn gyda phobl ifanc o’r ardal. Gofynnodd y tîm ieuenctid i’r bobl ifanc a allai fod â diddordeb ac roedd grŵp o ferched 10-13 oed, rhai yn fwy hyderus nag eraill, yn chwilfrydig am y prosiect. Cynhaliodd y tîm ieuenctid gyfres o weithdai lle dysgodd pobl ifanc sgiliau gwnïo, paentio golygfeydd, a rhoi cynnig ar offer. Buont yn gweithio gyda’r steilydd i wneud eu gwisgoedd, gan ddefnyddio llu o ddeunyddiau i fod yn greadigol. Ymunodd ffotograffydd, Clementine Schneidermann, â ni. Awgrymodd y bobl ifanc lefydd lleol ar gyfer lleoliadau ei lluniau ac aeth y tîm ieuenctid â nhw i gyd dros Ferthyr Tudful ac yng nghefn gwlad. Cymerodd Clementine rai lluniau anhygoel o’r merched a dyfodd mewn hyder a gallu. Mae’r lluniau a ddeilliodd wedi cyrraedd cynulleidfa fyd-eang gydag erthyglau yn Vogue ac ar y BBC. Cafodd y merched eu cyfweld gan y Guardian a mynychu premier o’r arddangosfa ffotograffig yn Sefydliad Martin Parr ym Mryste lle arddangoswyd eu lluniau. Cafodd un o’r bobl ifanc gyfle i fodelu yn Llundain ar gyfer shoot Chanel ac mae wedi cysylltu â nhw am ragor o gyfleoedd modelu.