
Anturiaethau
Rydym yn credu mewn cael hwyl ac anturiaethau i ddysgu mwy amdanom ni ein hunain, pobl eraill a’n lle yn y byd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid gwych, fel Canolfan Mileniwm Cymru, sy’n rhoi tocynnau i ni ar gyfer perfformiadau a Her Cymru, sy’n sybsideiddio ein teithiau hwylio. Mae pobl ifanc hefyd yn cynllunio a chodi arian ar gyfer eu teithiau eu hunain – rydym wedi bod i’r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, wedi aros gyda Call of the Wild, wedi mynd i Lundain ac Ynys Lundy. Rydyn ni’n mynd ar deithiau dydd yn trampolinio neu’n cerdded yn y coed, bob amser yn gwneud rhywbeth gwahanol ac yn ymestyn ein gorwelion
“Hwylio oedd profiad gorau fy mywyd, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n gwneud rhywbeth fel hyn, byddwn i wrth fy modd yn ei wneud eto”.
“Roeddwn i’n mwynhau aros yma yn fawr a byddwn wrth fy modd yn dod yn ôl i’r ynys pan fydd y palod yno. Roedd popeth yn anhygoel, y teithiau cerdded, hela blwch llythyrau ac yn fwyaf arbennig y bywyd gwyllt. Mae’r daith hon wedi bod o fudd i mi fy mod i eisiau dod yn ôl. Diolch am adael i mi ddod ar y daith”.
“Rwyf wedi gweld cymaint o olygfeydd hardd fel y môr, awyr, sêr a cherdded o amgylch yr ynys. Diolch am ddod â fi draw dwi wedi cael amser gwych a byddaf yn bendant yn meddwl am ddod nôl”.

















