Ar gyfer plant o dan oedran ysgol, rydym yn cysylltu â llawer o bartneriaid i roi’r gefnogaeth y maent yn chwilio amdano i rieni a gofalwyr.
Mae Tîm Magu Plant Dechrau’n Deg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, timau Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd Cymunedol Cwm Taf Morgannwg a Mind Mums Matter i gyd yn cynnal dosbarthiadau a grwpiau cymorth yn y Ganolfan. Rydym hefyd yn cefnogi cyn-ysgol Dechrau’n Deg ac mae gennym ein grwpiau chwarae ein hunain a diwrnodau chwarae – mae croeso i bawb !