BLYNYDDOEDD CYNNAR
Chwarae yn gyntaf. Cadw plant yn ddiogel. Ymagwedd deuluol.
Rydym yn darparu rhaglen gymorth sy’n ehangu’n barhaus i blant a’u teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Darparu cyfleoedd i chwarae, dysgu a chael hwyl. Rhoi’r plentyn yn gyntaf.
Gan ddechrau gyda mamau beichiog rydyn ni’n mynd gyda nhw ar eu llwybr o feichiogrwydd i enedigaeth. Rydym yn cynnal tylino babanod a chlinig cyn-geni, ac yn cefnogi meithrinfa Dechrau’n Deg, sy’n cynnig gofal plant rhan-amser am ddim i blant 2-3 oed. Rydym yn cefnogi rhieni a gofalwyr gyda datblygiad plant yn uniongyrchol ac mewn partneriaeth ag eraill. Rydym yn cynnal dau grŵp chwarae ac un sesiwn gerddoriaeth a symud yn wythnosol ac yn cynnal dosbarthiadau rhianta. Rydym yn ymgysylltu ac yn cefnogi gofalwyr a theuluoedd i mewn i weithgareddau, yn eiriol dros lesiant ac yn mynd gyda’r teulu ar daith o newid.
Rydym hefyd yn darparu diwrnodau chwarae a gweithgareddau i’r teulu yn ystod gwyliau’r ysgol.