Rydym yn cynnal sesiynau cymorth grŵp wythnosol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Gyda chefnogaeth Effro, rydym yn cyflwyno gweithgareddau sy’n ennyn atgofion a sgiliau meddwl gan ddefnyddio therapi hel atgofion a therapïau symbyliad gwybyddol. Mae’r sesiynau’n hwyl fawr i bawb ac yn dod â llawenydd a chwerthin i fywydau pobl. Rydym yn gweithio gyda’r Clinig Cof ym Mharc Iechyd Keir Hardie i adnabod pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr sydd angen cymorth. O’r Ganolfan, mae New Horizons hefyd yn darparu gweithdai lles i ofalwyr yn y fwrdeistref.
Mae ein sesiynau rheolaidd hefyd yn ddementia-gyfeillgar ac mae’r holl staff wedi cael eu hyfforddi i fod yn ffrindiau dementia.