Gellideg

Rydyn ni’n cyflogi

Cydlynydd Un Peth yn Unig ar gyfer Grŵp Sefydliad Gellideg

Ymunwch â Grŵp Sefydliad Gellideg fel Cydlynydd Un Peth yn Unig, gan ddarparu cyngor lles ymarferol sy’n canolbwyntio ar y person, i unigolion a chymunedau er mwyn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener y 23ain o Hydref 2026 am 12pm

Prif leoliad gwaith: Y Ganolfan Les, Gellideg, Merthyr Tudful

Yn y rôl hon byddwch yn:

Hyrwyddo gwelliannau iechyd “Un Peth yn Unig” Dr Michael Mosley a chefnogi aelodau’r gymuned i gyflwyno’r rhain i’w bywydau bob dydd.

Cadw cofnodion cywir, cyfrannu at drafodaethau, cymryd rhan mewn hyfforddiant a chynnal gofynion polisi Grwp Sefydliad Gellideg.

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd:

  • Yn cael ei ysgogi i helpu unigolion i wella eu lles ac sydd wedi ymrwymo i ymchwilio a rhannu’r hyn a ddysgwyd fel rhan o waith “Un Peth yn Unig” gydag eraill.
  • Dangos ymwybyddiaeth gref o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ochr yn ochr â sgiliau gwrando rhagorol ac ymrwymiad i gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y person.

Math o gytundeb
Hyd y 14eg o Fedi 2028 gyda’r posibilrwydd o’r swydd yn cael ei hymestyn, yn amodol ar gyllid

Cyflog: £28,590 y flwyddyn pro rata. 15 awr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rôl, a’r manteision o weithio gyda ni ar ein gwefan www.gellideg.net yn yr adran Newyddion.

Gwnewch gais nawr! Anfonwch eich CV a llythyr at marcus@gellideg.net

Rhaid i’ch CV ddangos sut rydych chi’n bodloni elfennau’r manyleb person. Yn y llythyr, dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun a pham rydych chi am weithio yn y rôl hon yng Ngrŵp Sefydliad Gellideg.

Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer i drefnu cyfweliad dros y ffôn. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hysbysu drwy e-bost. Cynhelir cyfweliadau ddydd Iau’r 29ain o Hydref yng Nghanolfan Les Gellideg.