
Cydlynydd Un Peth yn Unig ar gyfer Grŵp Sefydliad Gellideg
Ymunwch â Grŵp Sefydliad Gellideg fel Cydlynydd Un Peth yn Unig, gan ddarparu cyngor lles ymarferol sy’n canolbwyntio ar y person, i unigolion a chymunedau er mwyn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener y 23ain o Hydref 2026 am 12pm
Prif leoliad gwaith: Y Ganolfan Les, Gellideg, Merthyr Tudful
Yn y rôl hon byddwch yn:
Hyrwyddo gwelliannau iechyd “Un Peth yn Unig” Dr Michael Mosley a chefnogi aelodau’r gymuned i gyflwyno’r rhain i’w bywydau bob dydd.
Cadw cofnodion cywir, cyfrannu at drafodaethau, cymryd rhan mewn hyfforddiant a chynnal gofynion polisi Grwp Sefydliad Gellideg.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd:
- Yn cael ei ysgogi i helpu unigolion i wella eu lles ac sydd wedi ymrwymo i ymchwilio a rhannu’r hyn a ddysgwyd fel rhan o waith “Un Peth yn Unig” gydag eraill.
- Dangos ymwybyddiaeth gref o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ochr yn ochr â sgiliau gwrando rhagorol ac ymrwymiad i gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y person.
Math o gytundeb
Hyd y 14eg o Fedi 2028 gyda’r posibilrwydd o’r swydd yn cael ei hymestyn, yn amodol ar gyllid
Cyflog: £28,590 y flwyddyn pro rata. 15 awr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y rôl, a’r manteision o weithio gyda ni ar ein gwefan www.gellideg.net yn yr adran Newyddion.
Gwnewch gais nawr! Anfonwch eich CV a llythyr at marcus@gellideg.net
Rhaid i’ch CV ddangos sut rydych chi’n bodloni elfennau’r manyleb person. Yn y llythyr, dywedwch wrthym amdanoch chi’ch hun a pham rydych chi am weithio yn y rôl hon yng Ngrŵp Sefydliad Gellideg.
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ar y rhestr fer i drefnu cyfweliad dros y ffôn. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hysbysu drwy e-bost. Cynhelir cyfweliadau ddydd Iau’r 29ain o Hydref yng Nghanolfan Les Gellideg.